Cawl pecorino a dail blodfresych

Gan
PEN-COGYDD TONY BUDDE
Dechreuwr
yn gwasanaethu
2

Y tro nesaf y byddwch yn prynu blodfresych, peidiwch eu prynu â’r dail wedi’u tynnu.Prynwch rai â dail a gallwch fwynhau’r cawl blasus, rhad hwn. Ar wahân i’r caws, y tatws a’r sbeisys, mae am ddim bron!

Llysieuol
Cynhwysion
Dail allanol dwy flodfresychen
Stoc llysiau i’w orchuddio
1 ewyn garlleg
35g o bersli
Pinsiad o bupur coch
Tatws hufennog neu wedi’u stwnsio sydd dros ben neu datws pob wedi’u plicio
25g o gaws pecorino neu ddarnau dros ben o gaws stilton/cheddar aeddfed/parmesan halen a phupur fel y dymunir ychydig o sudd lemwn i wella’r blas
25g o fenyn heb halen
50g o flawd
cyfarwyddiadau
Tynnwch y dail allanol oddi ar flodfresychen a thynnwch y coesau canolog trwchus. Torrwch y coesyn canolog yn fân
Toddwch y menyn mewn sosban â gwaelod trwchus, a ffriwch ddail y flodfresychen
Ychwanegwch y blawd i wneud cymysgedd trwchus fel gwlych, yna cymysgwch y stoc llysiau i mewn a’i fudferwi nes eu bod yn feddal (tuag awr)
Ychwanegwch y persli a’i goginio am ryw 30 eiliad (mae hyn yn helpu gyda’r lliw)
Ychwanegwch y tatws wedi’u coginio, y sbeisys a’r perlysiau
Hylifwch ac yna ychwanegwch y caws wedi gratio’n fân a’i droi i’w doddi
Gweinwch mewn bowlenni cynnes a’i addurno â dail basil ffres a rholiau crystiog, cynnes