LFHW Cawl Pwmpen Sbeislyd | Love Food Hate Waste Wales

Cawl Pwmpen Sbeislyd

Gan
LFHW
45 - 60 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Mae’n felys ac yn sbeislyd, ac mae’r cawl pwmpen hwn yn ffefryn gaeafol sy’n berffaith ar gyfer y rheiny sy’n gwneud cawl am y tro cyntaf, yn ogystal â’r rheiny sy’n arbenigwyr. Mae hyd yn oed yn well os byddwch yn carameleiddio’r bwmpen a’r daten felys yn gyntaf. Blasus!

Rhewi
Yes
Llysieuol
Cynhwysion
½ Pwmpen cymedrol seis neu ½ pwmpen cnau menyn
1 daten felys
1/2 pupur coch
Olew coginio neu olew olewydd
Cwpan a hanner (375 ml) o ddŵr
1 cwpan (250 ml) o laeth braster llawn
1 tsili coch, wedi’i dorri
Pinsied o halen a phupur
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 190°C.
Tynnwch y cnawd pwmpen â llwy
Pliciwch y bwmpen a’r daten felys a’u torri’n giwbiau 2.5cm. Sleisiwch y pupur coch.
Rhowch yr holl lysiau ar hambwrdd rhostio gyda drisl o olew, a’u rhostio yn y popty am 30-40 munud, hyd nes eu bod nhw’n feddal. Os hoffech roi blas mwy melys i’r cawl, rhostiwch y bwmpen a’r daten felys hyd nes eu bod nhw’n dywyll ac wedi carameleiddio.
Ar ôl i’r llysiau oeri digon i chi allu eu trafod, rhowch nhw mewn blendiwr gyda’r dŵr, y llaeth a’r tsili wedi’i dorri. Blendiwch hyd nes ei fod yn llyfn. Sylwer: mae’n bwysig gadael i’r llysiau oeri cyn eu rhoi nhw yn y blendiwr oherwydd gallai pwysedd y stêm greu llanastr yn y gegin!
Arllwyswch y cawl i mewn i sosban a’i gynhesu hyd nes ei fod yn chwilboeth, gan ychwanegu mwy o ddŵr os hoffech iddo fod ychydig yn deneuach. Ychwanegwch halen a phupur i roi blas.
Awgrym: Gallwch ddyblu’r rysáit hwn yn hawdd, trwy ddefnyddio pwmpen cnau menyn a phupur coch cyfan. Mae’n syniad gwych rhewi dognau o’r cawl hwn. Yna gallwch gael cawl cartref rhyw dro eto, heb dreulio amser yn paratoi!
Amrywiadau I wneud hwn yn bryd mwy cytbwys, gallwch ei weini gyda chroutons garlleg neu rhai tafelli o fara a menyn. Gallwch amrywio’r cynhwysion hefyd, trwy ddefnyddio pwmpen yn lle, neu fel ychwanegiad!
Blas ychwanegol Gall ychwanegu eich cymysgedd eich hun o berlysiau a sbeisys i wella blas y pryd hwn. Gallech ystyried ychwanegu coriander, cwmin, oregano neu hadau ffenigl.
Opsiynau fegan I addasu’r pryd ar gyfer feganiaid, defnyddiwch stoc llysiau neu laeth cnau coco yn lle llaeth. Bydd y ddau yn creu blasau gwahanol.
Cyngor ar alergedd Gallwch addasu’r pryd hwn yn hawdd i osgoi alergenau, i fod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddietau.
Gwybodaeth faethol: Kcal - 800, KJ - 3347, Braster - 9g, Braster dirlawn - 6g, Carbohydradau - 169g, Sy’n siwgro - 38g, Protein - 23g, Ffibr - 13g, Sodiwm- 0.3g