Cawl sbeislyd Sgwash Cnau Ymenyn

Gan
HOFFI BWYD, CASÁU GWASTRAFF
45 - 60 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Mae’r rysáit melys a sbeislyd hwn yn rhagorol i rywun sy’n gwneud cawl am y tro cyntaf. Bydd yn dangos i chi sut i wneud cawl iach a blasus fel y gallwch arbrofi gyda gwahanol flasau yn y dyfodol.

Rhewi
Yes
Llysieuol
Cynhwysion
Hanner sgwash cnau ymenyn
1 perdaten
½ pupryn coch
1 ½ cwpanaid (375 mL) o dŵr
1 cwpanaid (250 mL) o laeth braster llawn
1 tshili coch
Pinsied o bupur a halen i’w sesno
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty ymlaen llaw i 190 gradd C
Dechreuwch trwy blicio’r sgwash a’r berdaten, a’u torri’n giwbiau 1 fodfedd
Sleisiwch y puprynnau coch a rhoi’r holl lysiau mewn tun rhostio gyda diferion o olew drostynt. Rhowch nhw yn y popty i rostio am 30 neu 40 munud nes eu bod yn feddal
Gadewch i’r llysiau oeri mymryn
Unwaith eu bod wedi oeri digon i’w trin, rhowch y sgwash, y puprynnau a’r perdatws mewn blender gyda’r dŵr, y llaeth a’r darnau tshili, a’u blendio nes eu bod yn llyfn
Tywalltwch y cymysgedd i sosban a’u twymo nes eiu bod yn chwilboeth, gan ychwanegu mwy o ddŵr os ydych yn hoffi cawl teneuach. Ychwanegwch bupur a halen yn ôl eich chwaeth.