LFHW Creision Llysiau Mecsicanaidd | Love Food Hate Waste Wales

Creision Llysiau Mecsicanaidd

Gan
LFHW
30 - 45 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Dyma fersiwn iachach o nachos sy’n ffordd wych o ddefnyddio llysiau gyda dipiau Mecsicanaidd a gellir  eu gweini fel byrbryd neu fel cwrs cyntaf i’w rannu  gyda gwesteion.

Cynhwysion
200g o fetys ffres
1 moronen fawr
1 daten felys fawr
2 lwy fwrdd o olew llysiau
Pupur du i sesno
Pecyn 240g o salsa/ gwacamole/hufen sur
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty i 220°C/200°C Ffan/ Nwy 7.
Torrwch ben a chynffon y betys a’r foronen, wedyn glanhewch y crwyn, yn cynnwys y daten felys, mewn dwr. Fel arall, gallwch eu plicio.
Sleisiwch y llysiau’n denau iawn, gyda phliciwr neu fandolin yn ddelfrydol, neu gellir defnyddio cyllell, ond i chi gymryd gofal. Wedyn, gwasgwch y darnau’n ofalus rhwng tafelli papur cegin i amsugno’r hylif.
Leiniwch dri thun pobi mawr gyda phapur gwrthsaim a’u brwsio gydag olew. Gosodwch y llysiau ar y tuniau mewn un haen, gan gadw’r betys ar wahân i’r lleill i’w atal rhag eu staenio. Brwsiwch y llysiau gyda’r olew sy’n weddill, eu sesno gyda phupur du a’u rhostio am 25 munud, gan eu troi ar ôl hanner yr amser coginio. Gosodwch y creision ar dun bas wedi’i leinio â phapur cegin a’u gadael i oeri’n llwyr.
I weini, gosodwch y creision ar blât ynghyd â phowlenni o salsa, gwacamole a hufen sur.
***Cynghorion***
Gwisgwch fenig rwber i baratoi betys er mwyn osgoi staenio eich dwylo. Gallech hefyd ddefnyddio unrhyw ddip dros ben o’r oergell neu wneud eich salsa eich hun gyda thomatos meddal, winwnsyn wedi’i dorri’n fân a phowdr tsili neu tsilis ffres wedi’u torri’n fân. Gallwch ddefnyddio’r rysáit hon i wneud creision cartref hefyd.