LFHW Crempogau ffrwythau cymysg | Love Food Hate Waste Wales

Crempogau ffrwythau cymysg

Gan
LFHW
10 - 20 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae crempogau’n ffordd wych o droi olion yn saig blasus. Mae plant yn hoff iawn o grempogau ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer amser te.

Cynhwysion
1 ŵy wedi’i guro
150ml (5floz) o laeth
100g (3oz) o flawd (plaen, gwenith cyflawn neu heb glwten)
50g (2oz) o ffrwythau cymysg sych
100g (3oz) ffrwythau wedi’u torri’n fân (e.e. afalau neu ellyg)
Ychydig o olew
Llwyaid de o siwgr
Llwyaid de o sbeisiau cymysg neu sinamon
cyfarwyddiadau
Ar ôl curo’r ŵy yn y llaeth, rhowch y blawd mewn powlen ac ychwanegu’r cymysgedd ato’n raddol gan ei droi nes ei fod yn llyfn. Yna, rhowch y ffrwythau sych a ffres ynddo.
Wedi cynhesu’r olew mewn padell, rhowch lwyaid o’r cymysgedd ynddo.
Rhaid ei ffrio am 2 funud cyn ei droi drosodd ag ysbodol a ffrio’r ochr arall am funud neu ddau. Dylai pob crempog fod tua 8 cm (3 modfedd) ar ei draws a dim ond 3-4 mm (1/8 modfedd) o drwch. Fe ddylech chi allu coginio 2 neu 3 mewn padell fawr yr un pryd.
Dylech chi gymysgu’r siwgr a’r sbeisiau, a’u gwasgaru ar y crempogau poeth cyn eu cyflwyno.