Cynhwysion
325g/11½ oz o flawd gwyn plaen
1 clwstwr (100g/3 ½ oz) o sibols
Halen, fel y dymunwch
4 llwy fwrdd o olew llysiau, ar gyfer brwsio a ffrio
cyfarwyddiadau
Trimiwch y sibols a’u torri’n fân.
Rhowch 250ml/8 ½ fl oz o ddŵr cynnes mewn powlen gymysgu fawr. Ychwanegwch yr halen. Ychwanegwch y blawd yn raddol hyd nes bod gennych chi does y gallwch ei godi allan o’r bowlen mewn pelen. Trosglwyddwch y toes i wyneb gwaith wedi’i ysgeintio â blawd a thylinwch ef, gan ddefnyddio gweddill y blawd yn raddol. Ffurfiwch y toes yn belen a thorrwch hi’n bedair rhan.
Rholiwch un o’r darnau toes yn betryal mawr. Brwsiwch ef yn ysgafn ag olew olewydd ac ysgeintiwch chwarter y sibols wedi’u torri’n fân arno. Gan ddechrau o ymyl hir, rholiwch y toes yn dynn yn siâp neidr.
Torrwch y neidr yn ei hanner ac yna torchwch bob hanner, fel petaech chi’n torchi rhaff. Patiwch ef yn wastad ac yna defnyddiwch rolbren i rolio pob torch yn ddarn o fara gwastad tua 15cm/6in mewn diamedr. Gwnewch yr un peth gyda gweddill y toes, yna ffriwch bob darn o’r bara mewn ychydig o olew ar y ddwy ochr, hyd nes eu bod yn euraid. Torrwch ef yn ddarnau i’w weini.