LFHW Crymbl Afal Taffi | Love Food Hate Waste Wales

Crymbl Afal Taffi

Gan
LFHW
45 - 60 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Defnyddiwch unrhyw fath o afalau bwyta yn y rysáit blasus hon, sy’n ymgorffori saws taffi cyflym, a chrymbl crensiog wedi’i wneud o doesenni dros ben ar ei ben.

Heb Cnau
Llysieuol
Cynhwysion
Ar gyfer y saws taffi:
50g o siwgr brown meddal
100ml o hufen dwbl
15g o fenyn
---------------------
Ar gyfer y crymbl:
1 toesen cylch
1 llwy fwrdd o fenyn, wedi’i feddalu
4 afal bwyta, fel Golden Delicious neu Pink Lady
25g o resins
cyfarwyddiadau
I wneud y saws taffi, rhowch y cynhwysion mewn sosban fach a’u cynhesu’n ysgafn hyd nes bod y siwgr wedi toddi. Cynyddwch y gwres a’i fudferwi’n ysgafn am 2-3 munud, a’i droi’n gyson hyd nes bod y saws wedi tewhau a’i fod yn gorchuddio cefn y llwy. Rhowch mewn powlen a’i adael i oeri.
Ar gyfer y crymbl, rhwygwch y doesen cyn ei rhoi mewn prosesydd bwyd, a’i blitsio hyd nes ei bod yn debyg i friwsion bara mân, fel arall, defnyddiwch gratiwr. Rhowch y briwsion mewn powlen gymysgu fach, ychwanegwch y menyn a’i rhwbio i mewn.
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160° ffan /nwy 4. Tynnwch graidd yr afalau gan ddefnyddio digreiddiwr, yna rhiciwch o gwmpas cylchedd pob afal â chyllell fach, finiog. Torrwch sleisen denau o ben a gwaelod pob afal er mwyn cael arwyneb gwastad, a rhowch yr afalau mewn tun pobi bach.
Cymysgwch y rhesins â 2 lwy fwrdd o saws taffi, yna llenwch ganol pob afal â’r gymysgedd. Taenwch haen denau o daffi ar ben bob afal, yna rhowch bentwr o’r gymysgedd crymbl ar ei ben, a’i wasgu i lawr yn ysgafn i sicrhau bod y crymbl yn glynu.
Pobwch am 25 munud hyd nes bod yr afal yn dyner a bod y topin yn euraid a chrisb. Gweinwch gydag ychydig o saws taffi.