LFHW Crymbl ffrwythau a cheirch | Love Food Hate Waste Wales

Crymbl ffrwythau a cheirch

Gan
LFHW
10 - 20 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
4

Dyma syniad gwych ar gyfer pwdin. Mae llawer llai o fraster yn y rysáit yma nag sydd yn yr un draddodiadol, a gallwch chi roi pob math o bethau ynddi.

Cynhwysion
100g/3oz o friwsion bara (2-3 tafell o hen fara)
50g (2oz) o geirch wedi'u rholio, miwsli neu granola
1 llwyaid o hadau blodau'r haul (neu gnau almon)
400g (14oz) o unrhyw ffrwythau (e.e. 2 afal ynghyd â mwyar)
100ml (3floz) o sudd ffrwythau (sudd afal ddefnyddion ni)
2 lwyaid de o fêl
cyfarwyddiadau
Rhaid cymysgu'r briwsion bara, y ceirch a'r hadau/cnau'n drylwyr mewn powlen.
Torrwch yr afalau (peidiwch â thynnu eu croen na'u creiddiau) a'u dodi mewn llestr ar gyfer y ffwrn ynghyd â'r mwyar a'r sudd.
Yna, rhowch y crymbl a'r mêl arnyn nhw.
Gadewch y pwdin yn y ffwrn (Trydan: 180ºC/350ºF, Nwy: 6) am 15-20 munud nes ei fod yn frown.
Dylech chi ei gyflwyno'n syth wedyn gyda thipyn o iogwrt Groeg, cwstard neu hufen.