LFHW Cyri Gwyrdd Thai gyda Phelenni Reis Gludiog | Love Food Hate Waste Wales

Cyri Gwyrdd Thai gyda Phelenni Reis Gludiog

Gan
LFHW
45 - 60 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
2

Mae gwir flas y dwyrain ar y cyri Thai hwn, mae’n gyflym i’w baratoi a gellir ei amrywio trwy ddefnyddio past Thai coch neu felyn. Gallwch ei weini gyda reis dros ben wedi’i ailwampio yn beli reis gludiog.

Cynhwysion
**Marinâd**
2 frest cyw iâr, wedi’u torri
2 lwy fwrdd o bast cyri gwyrdd Thai
1 llwy fwrdd o olew llysiau
**Saws**
1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 winwnsyn mawr, oddeutu 200g, wedi’i dorri’n fân
½ llwy de o sinsir mâl
2 lwy de o dyrmerig mâl
Tun 400ml o laeth cnau coco ysgafn
30g o goriander ffres
**I’w weini**
100g o ffa gwyrdd, wedi’u torri yn eu hanner
1 pupur coch bach, heb ei hadau ac wedi’i dorri’n stribedi
150g o reis basmati neu jasmin wedi’i goginio
cyfarwyddiadau
Cymysgwch gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd mewn powlen nes bydd y cyw iâr wedi’i orchuddio. Gorchuddiwch y cymysgedd a’i roi yn yr oergell i farinadu am o leiaf 2 awr.
I baratoi’r saws, cynheswch 1 llwy de o olew mewn padell nad yw’n glynu, ychwanegwch y winwnsyn a’i ffrio’n ysgafn am 5 munud nes bydd yn feddal ond heb frownio. Ychwanegwch y sinsir a’r tyrmerig mâl a’i goginio am 1 munud.
Arllwyswch y llaeth cnau coco i’r badell, gan ddod ag ef i’r berw yn raddol, wedyn gostyngwch y gwres a’i ffrwtian dan gaead am 15 munud. Torrwch y coriander yn fras, yn cynnwys y coesynnau, a’i ychwanegu at y saws. Parhewch i’w ffrwtian am 5 munud cyn tynnu’r sosban oddi ar y gwres a’i stwnshio gyda ffon prosesu bwyd nes bydd yn esmwyth.
Twymwch badell nad yw’n glynu, ychwanegwch y cyw iâr a’r marinâd, a’i dro-ffrio dros wres cymedrol am 10 munud. Ychwanegwch y ffa gwyrdd a’u coginio am 5 munud arall. Yn olaf, arllwyswch y saws dros y cyw iâr, ychwanegwch y pupur a’i ffrwtian am 5–10 munud neu nes bydd y cyw iâr wedi coginio drwyddo.
I wneud y pelenni reis gludiog, gan ddefnyddio dwylo gwlyb, rholiwch y reis yn 6 pelen o faint cyfartal a’u cynhesu yn y microdon nes y byddant yn chwilboeth.
***Cyngor***
I wneud reis gydag ychydig o gic iddo, ychwanegwch groen a sudd un leim cyn rholio’r reis yn belenni. Mae cyw iâr wedi’i goginio yn gweithio’n dda yn y rysáit, ond i chi leihau’r amser coginio i 10 munud, a sicrhau bod y cyw iâr wedi cynhesu’n chwilboeth cyn ei weini. Dylai reis dros ben sydd wedi’i goginio gael ei oeri’n gyflym, a’i storio yn yr oergell am hyd at 24 awr. Gellir ei fwyta’n oer neu ei aildwymo nes bydd yn chwilboeth. Mae’r saig hon yn gweithio’n dda gyda llysiau eraill hefyd; gallech ychwanegu moron wedi’u coginio ar y diwedd, neu hyd yn oed lond llaw o bys o’r rhewgell neu corguette wedi’i dafellu. Os oes gennych goriander ffres dros ben, torrwch ef yn fân a’i rewi mewn blwch ciwbiau rhew, gan ychwanegu dŵr lenwi’r blychau. Unwaith y bydd wedi rhewi, tynnwch y ciwbiau o’r blwch a’u cadw yn y rhewgell mewn bag rhewgell neu dwbyn plastig. Y tro nesaf bydd gennych rysáit sy’n galw am goriander ffres, bydd gennych beth yn barod i’w ddefnyddio.