Rhowch y gwygbys mewn powlen gyda’r winwns, y garlleg, y cwmin, y coriander mâl, yr halen a’r pupur, a defnyddiwch pestle a mortar i stwnsio’r gwygbys yn ysgafn, hyd nes bod y gymysgedd yn dechrau cydio yn ei gilydd. Ychwanegwch y coriander wedi’i dorri, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
Defnyddiwch ddognau maint cneuen Ffrengig i ffurfio darnau crwn bach, 1 cm o drwch. Rholiwch y falafels yn y blawd, nes eu bod nhw wedi’u gorchuddio’n dda, a’u hoeri am 15-30 munud. Cynheswch oddeutu 2.3cm o olew mewn padell ffrïo, a phan fydd yn boeth, ychwanegwch ychydig o falafels a’u coginio dros wres canolig am oddeutu 5-6 munud, a’u troi’n aml. Draeniwch nhw ar bapur cegin.
Gweinwch nhw gyda dip fel dip mintys, iogwrt a chiwcymbr (gweler isod), ynghyd â ffyn o giwcymbr a phupur coch. I wneud y dip mintys, iogwrt a chiwcymbr
Rhowch yr iogwrt, y mayonnaise a’r sudd leim mewn powlen, a’u chwisgo â fforc.
Ychwanegwch y ciwcymbr wedi’i ddraenio, y garlleg a’r mintys wedi’i dorri, ei gymysgu ac ychwanegu pinsied o halen, os oes angen.
Gorchuddiwch y dip, a’i adael yn yr oergell am o leiaf awr cyn ei weini, i ganiatáu i’r blasau ddwyso.
Rhewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 2. Oerwch y falafels a’u rhoi mewn cynhwysydd aerdyn am hyd at 6 mis. I’w defnyddio: Rhowch y falafels ar silff bobi a’u cynhesu yn y popty ar dymheredd o 180°C (350°F) marc 4 am oddeutu 10 munud neu hyd nes eu bod nhw’n chwilboeth.