Ffriterau moron, Cwmin a Choriander

Gan
LFHW
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae’r trîts blasus hyn yn wych fel cwrs cyntaf neu fyrbryd.

Cynhwysion
400g o foron ffres, wedi’u gratio
1 winwnsyn mawr, wedi’i blicio a’i gratio
1 ewin garlleg, wedi’i blicio a’i falu’n fân iawn
3 ŵy
1 llwy fwrdd o flawd plaen
100ml o crème fraîche Tesco Healthy Living
1 llwy de o gwmin mâl
halen
pupur du
dyrnaid da o ddail coriander ffres
1½ llwy fwrdd o olew olewydd
cyfarwyddiadau
Rhowch y moron, y winwns a’r garlleg mewn powlen a’u cymysgu’n dda. Mewn powlen fawr arall, curwch yr wyau gyda’r blawd hyd nes bod y cymysgedd yn llyfn a heb lympiau, yna trowch y crème fraîche i mewn.
Nawr, ychwanegwch gynnwys y bowlen foron i’r cymysgedd wyau a throwch i mewn y cwmin, y sesnin a’r dail coriander.
Gwresogwch hanner yr olew mewn padell ffrïo fawr nad yw’n glynu hyd nes y bydd yn boeth, yna, gan ddefnyddio llwy goginio fawr, ychwanegwch dalpiau o’r cymysgedd (dylai’r cymysgedd cyfan wneud o leiaf 8 ffriter). Bydd y cymysgedd yn lledaenu, felly mae’n debyg na fyddwch yn gallu coginio mwy na phedwar ar y tro hyd yn oed mewn padell fawr.
Coginiwch nhw dros wres canolig am 3 munud, yna pan fyddan nhw’n euraid ar y gwaelod, trowch nhw drosodd a’u coginio am 3 munud arall neu hyd nes eu bod yn frown.
Rhowch nhw ar bapur cegin a’u cadw’n gynnes tra byddwch chi’n coginio’r gweddill yn yr olew sydd ar ôl.