Cynhwysion
500g o datws Jersey Royal wedi’u haneru
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri
2 lwy fwrdd o saws brown
1 llwy fwrdd o finegr balsamaidd
3 llwy fwrdd o siytni winwns wedi’i garameleiddio
cyfarwyddiadau
Twymwch y ffwrn i 200°C Ffan / Nwy 6. Taflwch y tatws mewn 1 llwy fwrdd o’r olew, cyn eu coginio mewn tun rhostio am 30–35 munud nes eu bod yn euraidd eu lliw.
Twymwch yr olew sydd dros ben mewn sosban. Coginiwch y winwns nes eu bod yn feddal ac yn magu lliw.
Ychwanegwch y saws brown, y finegr balsamaidd a’r siytni. Ei ffrwtian am 5 munud, gan droi nes cewch saws trwchus.
Arllwyswch y saws dros y tatws a’u cymysgu’n dda. Trosglwyddwch y cwbl i ddysgl i’w weini.