Hadau Pwmpen Blas Mwg Syml

Gan
The Hungry Herbivores
30 - 45 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Hadau pwmpen rhost, blasus, creisionllyd, am y nesaf peth i ddim! Perffaith ar gyfer byrbrydau, ysgeintio a rhoi blas ar eich seigiau. Ewch ati i leihau eich gwastraff gyda’r rysáit syml hon!

Llysieuol
Cynhwysion
¾ cwpan o hadau pwmpen amrwd
1 llwy de o olew olewydd
½ llwy de o baprica blas mwg
Pinsiaid o halen môr
cyfarwyddiadau
Twymwch eich popty i 375F/190C/Nwy 5.
Tynnwch yr holl gnawd pwmpen oddi ar yr hadau, rinsiwch nhw a’u draenio’n drylwyr. Sychwch gyda phapur cegin neu liain sychu llestri.
Mewn powlen, cymysgwch yr hadau pwmpen, olew olewydd, paprica mwg a’r halen môr gyda’i gilydd. Cymysgwch yn dda.
Arllwyswch y cwbl ar lestr pobi, gan wasgaru’r hadau’n gyfartal ar ei draws a’u pobi am 25 munud.
Tynnwch o’r popty a’i adael i oeri am ychydig funudau cyn ei weini, neu storiwch mewn blwch seliedig am hyd at 14 diwrnod.