
Jam Ffrwythau Cyflym
Mae’r rysáit hon yn wych ar gyfer defnyddio ffrwythau meddal sydd wedi mynd heibio i’w cyfnod gorau, ond heb gyrraedd y cam llwydo – y compost yw’r lle gorau iddynt wedyn! Mae’r jam ffrwythau hwn yn debycach i gompot na jam arferol, a bydd angen ei fwyta o fewn ychydig ddiwrnodau. Mae’n gyflym i’w wneud ac yn hyfryd wedi’i weini gyda sgonau, ar dost, wedi’i gymysgu i mewn i iogwrt neu ar hufen iâ.