Cynhwysion
375g/13 owns o nionod
2 llond llwy fwrdd o olew llysiau
100g/ 3 ½ owns o reis gwyn grawn hir
100g/ 3 ½ owns o basta gwyn
1 tun 400g/14 owns o gorbys (chickpeas) (240g/9 owns ar ôl eu draenio)
1 jar 500g/1 pwys 2 owns o passata
1 llond llwy fwrdd o bowdwr cayenne neu tshili
cyfarwyddiadau
Pliciwch y nionod a’u sleisio’n fân. Ffrïwch nhw yn hanner yr olew llysiau nes eu bod yn frau ac wedi brownio. Tynnwch hanner y nionod allan o’r badell a’u rhoi o’r neilltu
Ychwanegwch y passata at y nionod yn y badell a’u mudferwi am 5 munud nes eu bod yn tewychu ac yn sgleinio
Draeniwch y corbys a’u rinsio, yna eu ffrïo yng ngweddill yr olew llysiau am 5 munud, gan eu troi yn aml nes eu bod yn frown golau. Gwasgarwch bupur cayenne neu bowdwr tshili drostynt a’u rhoi o’r neilltu
Rhowch y reis a’r pasta mewn padell fawr, eu gorchuddio â dŵr a dod â nhw i ferwi. Trowch y gwres i lawr, rhoi caead arno a mudferwi am 15 munud nes bod y reis a’r pasta yn dyner
Draeniwch y reis a’r corbys a chymysgu’r corbys gyda’r reis. Rhannwch y cymysgedd yn bedwar pryd a rhoi sôs tomato drosto, gyda’r nionod a gadwyd yn ôl