Lasagne Hadog Mwg

Gan
LFHW
30 - 45 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
2

Dyma wedd newydd ar rysáit lasagne draddodiadol,  gyda hadog mwg a saws india-corn hufennog. Pryd bwyd blasus a chlyd ar gyfer dau, neu gallwch ei ddyblu ar gyfer pedwar oedolyn.

Cynhwysion
280g o ffiledau hadog mwg heb esgyrn
325ml o laeth hanner sgim
1 ddeilen llawryf
Pupur du i sesno
20g o fenyn
20g o flawd plaen
Tun 200g o india-corn hufennog
2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol
1 wy canolig
6 haen o basta lasagne parod i’w goginio
cyfarwyddiadau
Rhowch y pysgod mewn padell ffrio, ychwanegwch y llaeth a’r ddeilen llawryf, a sesno’r cwbl gyda phupur du. Berwch y llaeth, trowch y gwres i lawr a’i botsio am 5 munud. Tynnwch y pysgod o’r badell gyda llwy dyllog, eu gosod ar blât, a’u torri’n ddarnau bach gyda fforc. Hidlwch y llaeth i mewn i jwg, a thaflu’r ddeilen llawryf.
I wneud y saws, toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch flawd a’i goginio am 2 funud, gan gymysgu gyda llwy bren. Ychwanegwch y llaeth fesul ychydig, gan ei droi’n ddibaid i osgoi lympiau. Dylid troi’r saws yn ddi-baid wrth ei ffrwtian am tua 2 funud i’w dewychu. Ychwanegwch y pysgod at y saws a’i gymysgu’n ofalus i osgoi chwalu’r pysgod.
Twymwch y popty i 180°C/160°C Ffan/ Nwy 4. Rhowch yr indiacorn hufennog, yr iogwrt naturiol a’r wy mewn powlen, ei chwipio’n ysgafn gyda fforc nes bydd y cwbl wedi cyfuno, a’i sesno gyda phupur du.
I roi’r cwbl at ei gilydd, taenwch hanner y saws pysgod ar waelod dysgl bobi tua 20cm x 16cm o faint. Gorchuddiwch gydag un haen o basta lasagne, gan dorri’r haenau i ffitio, yna rhowch hanner y cymysgedd india-corn ar ei ben, yna haen arall o lasagne. Ailadroddwch yr haenau, saws pysgod, pasta lasagne, yna haen o’r cymysgedd india-corn ar y top.
Rhowch yn y popty a’i bobi am 35 munud nes bydd y top yn euraidd.
***Cynghorion***
Beth am roi cynnig ar benfras mwg yn y rysáit hon? Gallech hefyd ychwanegu corgimwch a chennin wedi’u ffrio. Defnyddiwch unrhyw india-corn hufennog sydd dros ben i wneud cawl Tsieineaidd, gan ychwanegu stoc cyw iâr, cyw iâr wedi’i goginio a’i dorri’n fân, saws soi, a’i dewychu gyda blawd corn.