Cynhwysion
6 taten goch ‘Rooster’
2 ewin garlleg wedi’u plicio
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy de o fflochiau tsili
1 llwy de o halen môr
12 deilen o fasil
cyfarwyddiadau
Sgrwbiwch y tatws a thorri bob un yn 8 lletem gyfartal.
Ychwanegwch ddŵr i orchuddio’r tatws.
Rhowch i ffrwtian yn ysgafn am tua 5 munud. Draeniwch a gollwng y stêm.
Gosodwch y lletemau ar haen bobi wedi’i iro, eu brwsio gydag olew olewydd a’u pobi nes maent yn grimp.
Diferwch y dresin drostynt.
I wneud y dresin, mathrwch y garlleg, basil, olew, halen a tsili gyda phestl a mortar neu beiriant cymysgu bach nes mae’r cwbl yn llyfn