Mocha Siocled Ceirch

Gan
Farmhouse Breakfast Week
0 - 10 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Perffaith i Garwyr Coffi! Os nad ydych yn teimlo fel cael brecwast mawr, mae’r mocha rhwydd a chyflym hwn yn frecwast ysgafn delfrydol a gallwch hefyd ei fwynhau ar eich ffordd i’r gwaith. Mae’n ffynhonnell calsiwm ac yn isel o ran braster, braster dirlawn a sodiwm.

Cynhwysion
½ llond llwy de o ronynnau coffi
1 llond llwy fwrdd o bowdwr siocled
2 llond llwy fwrdd o geirch
300ml o laeth semi
cyfarwyddiadau
Rhowch y coffi, y siocled, y ceirch a hanner y llaeth mewn padell fechan a dod â nhw i ferwi. Tywalltwch y cymysgedd i flendar gyda gweddill y llaeth a’i chwyrlïo nes y mae’n llyfn. Tywalltwch o i wydr tal ac mae’n barod i’w yfed