LFHW Myffins Granola Sbeis Pwmpen | Love Food Hate Waste Wales

Myffins Granola Sbeis Pwmpen

Gan
The Hungry Herbivores
30 - 45 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
12

Cyfuniad o ddau o’ch hoff fwydydd brecwast! Myffins syml, ysgafn wedi’u gorffen gyda granola creisionllyd – dyna ddechrau da i’r diwrnod.

Cynhwysion
2 gwpan o flawd heb glwten
¼ cwpan o almwnau mâl
½ cwpan o siwgr cnau coco
1 llwy fwrdd o gymysgedd sbeis pwmpen
1 llwy de o gwm xanthan, neu hadau chia neu hadau llin. Gellir defnyddio gelatin os nad ydych chi’n figan
1 llwy de o bowdr pobi
1 llwy de o soda pobi
½ llwy de o halen môr
¾ cwpan o laeth figanaidd, fel soia
¼ cwpan ac 1 llwy fwrdd o olew had rêp neu olew canola
½ cwpan o biwrî afal heb ei siwgro
1 llwy fwrdd o finegr seidr afal
¼ cwpan o surop masarn
½ llwy de o rinflas fanila
¾ cwpan o gymysgedd granola almwn a sbeis pwmpen (neu granola cyffredin)
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty i 180C/350F/Nwy 4, a leiniwch (neu irwch) dun myffins 12 twll.
Mewn powlen fach, cymysgwch yr olew, y llaeth figanaidd, finegr, surop masarn, piwrî afal a fanila gyda’i gilydd, cyn ei osod i un ochr.
Mewn powlen fawr, chwipiwch y blawd, almwnau, siwgr cnau coco, cymysgedd sbeis pwmpen, gwm xanthan, soda pobi, powdr pobi a’r halen.
Gwnewch ffynnon yn y cynhwysion sych ac arllwyswch y cymysgedd hylif i mewn. Plygwch y cyfan at ei gilydd.
Arllwyswch y cymysgedd myffin nes ei fod bron â llenwi bob un o’r tyllau yn y tun myffins, ac ysgeintiwch lond llwy fwrdd o’r granola ar ben bob myffin.
Rhowch yn y popty a’i goginio am 23–28 munud, neu nes daw deintbig neu sgiwer allan yn lân gydag ychydig o friwsion.
Gadewch i oeri ar resel am 15–20 munud cyn eu tynnu o’r tun.
Gallwch storio myffins mewn cynhwysydd seliedig am 3–4 diwrnod.