Myffins Tatws Norwyaidd
Mae llawer o datws yn cael eu taflu i ffwrdd yn Norwy, yr un fath ag yn y Deyrnas Unedig. Mae tatws yn gynhwysion defnyddiol sy’n gallu bod yn sail i lawer o seigiau a theisennau crwst blasus iawn. Beth am wneud myffins gyda’r hyn sy’n weddill heddiw? Dyma fersiwn felys.
Peidiwch â phoeni gormod am y cynhwysion dewisol, fe wnaethon ni swp ohonyn nhw heb y surop a’r sefydlogydd, ac roedden nhw’n flasus iawn!