LFHW Nwdls Iach | Love Food Hate Waste Wales

Nwdls Iach

Gan
Chris Mantle, Edinburgh Community Food
10 - 20 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Mae’r pryd syml hwn i un yn defnyddio symiau bychan o lysiau a chig wedi’i goginio dros ben. Gallwch ei storio yn yr oergell i’w gael i ginio'r diwrnod wedyn.

Rhewi
Yes
Heb Glwten
Heb Wyau
Heb Gynnyrch Llaeth
Cynhwysion
40g o gyw iâr neu ham wedi’i dorri’n fân
1 shibwnsyn, wedi’i dorri’n fân iawn
1 llwy fwrdd o foron wedi’u gratio
1 llwy fwrdd o courgette wedi’i gratio
1 llond llaw o sbigoglys, wedi’i dorri’n fân iawn
1 clof garlleg bach, wedi’i dorri’n fân iawn
1 nyth o nwdls reis (y math sydd angen eu mwydo mewn dŵr poeth yn unig)
1 llwy de o olew sesame
1/4 ciwb stoc cyw iâr
1/2 llwy de o bowdwr tsili neu bowdwr cyri
cyfarwyddiadau
Paratowch y llysiau, gan eu torri nhw’n fach iawn neu eu gratio.
Sleisiwch y cyw iâr yn fân.
Rhowch y nwdls mewn powlen, a’u gorchuddio â dŵr berw, rhowch blât ar ei phen a’i adael am 5 munud.
Mewn powlen arall, ychwanegwch y llwy de o olew sesame, y llysiau, cyw iâr, powdwr tsili, ciwb stoc a 1/2 mwy o ddŵr berw.
Draeniwch y nwdls, rhowch nhw mewn powlen, ac ychwanegwch y gymysgedd o lysiau a chyw iâr. Cymysgwch yn dda.