Cynhwysion
2 dafell bob pen o dorth o fara brown (mae hen fara’n well, neu fara o’r rhewgell)
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 clof garlleg
2 sbrigyn o rosmari
Croen 1 lemon
Cwpl o binsiadau o halen môr mân
cyfarwyddiadau
Chwalwch y ddwy dafell bob pen yn friwsion bras mewn prosesydd bwyd neu debyg.
Mewn padell ffrio, twymwch yr olew dros wres isel i gymedrol a defnyddiwch wasgwr garlleg neu gratiwr mân i ychwanegu’r garlleg i’r badell. Ffriwch heb frownio’r garlleg.
Ychwanegwch y briwsion bara a’u gorchuddio gyda’r olew garlleg, a choginio’r cwbl nes bydd yn euraidd.
Cymysgwch yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn coginio’n gytbwys ac i rwystro’r briwsion rhag llosgi.
Tynnwch y dail rhosmari oddi ar y coesynnau a’u torri’n fras, cyn eu hychwanegu i’r badell a chymysgu. Gelir cadw’r coesynnau i’w hychwanegu at gawl.
Gratiwch groen y lemon (yn ddelfrydol, un heb ei gwyro, ond os yw wedi’i gwyro, golchwch y lemon mewn llif o ddŵr cynnes gyda sbwng bras). Gellir cadw’r lemon i’w ddefnyddio eto, wrth gwrs.
Sesnwch gyda halen.