Cynhwysion
1 pecyn o grwst pwff wedi’i rolio’n barod (gwiriwch y pecyn i wneud yn siŵr ei fod yn addas i lysieuwyr!)
Digon o lysiau wedi’u coginio dros ben (fel brocoli) i bron llenwi’r ddisgl rydych chi eisiau ei defnyddio.
Digon o saws o’ch dewis chi i orchuddio’r llysiau yn y ddysgl pastai (gweler y nodyn isod)
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 190C.
Torrwch y llysiau yn dameidiau a’u rhoi nhw mewn powlen fawr. (Os byddwch chi eisiau ychwanegu mwy o lysiau at eich llysiau dros ben, mae’n well eu coginio nhw’n gyntaf er mwyn gwneud yn siŵr na fydd eich pastai’n cynnwys rhai llysiau a fydd yn fwy cadarn na rhai eraill. Mae ychwanegu tun o ffa coch neu wygbys yn ffordd dda arall i ymestyn eich bwyd dros ben, a bydd yn gwella proffil maethol y pryd.) Ychwanegwch y saws at y llysiau a’u cymysgu.
Rhowch y ddalen crwst ar fwrdd â blawd. Trowch y ddisgl y byddwch yn ei defnyddio ar gyfer y pastai ben i waered, a’i wasgu’n ysgafn ar y ddalen crwst i adael ôl ysgafn. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r siâp allan o’r crwst. Efallai yr hoffech dorri rhai siapiau addurnol o drimins y crwst i addurno’r clawr crwst, neu rholiwch y trimins yn stribedi, eu brwsio nhw ag ychydig o laeth neu ŵy wedi’i guro, rhoi ychydig o gaws wedi’i gratio a phaprica drostynt, a’u pobi ar silff bobi wedi’i leinio â phapur pobi ar 190°C am 15 i wneud gwellt caws cyflym.Rhowch y ddalen crwst ar fwrdd â blawd. Trowch y ddisgl y byddwch yn ei defnyddio ar gyfer y pastai ben i waered, a’i wasgu’n ysgafn ar y ddalen crwst i adael ôl ysgafn. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r siâp allan o’r crwst. Efallai yr hoffech dorri rhai siapiau addurnol o drimins y crwst i addurno’r clawr crwst, neu rholiwch y trimins yn stribedi, eu brwsio nhw ag ychydig o laeth neu ŵy wedi’i guro, rhoi ychydig o gaws wedi’i gratio a phaprica drostynt, a’u pobi ar silff bobi wedi’i leinio â phapur pobi ar 190°C am 15 i wneud gwellt caws cyflym.
Rhowch y llysiau a’r saws yn y ddisgl pastai, rhowch y clawr crwst ar ei ben yn ofalus, a defnyddiwch blaen cyllell finiog i wneud rhai tyllau aer er mwyn gwneud yn siwr na fydd stêm yn cronni o dan y crwst, a gwneud y gwaelod yn soeglyd!
Pobwch am 30 munud hyd nes bod y crwst yn euraid a chrisb.