Cynhwysion
½ pecyn o does crwst brau wedi’i rholio’n barod
100 gram o gyw iâr, cig oen neu borc - wedi’i goginio a’i dorri’n ddarnau 1/2 modfedd
1/2 moronen wedi’i choginio
1 taten rost wedi’i choginio
50 gram o swedsen wedi’i choginio
10 gram o bys wedi’u coginio
3 llwy fwrdd o refi dros ben
1 wy
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C.
Defnyddiwch bowlen gymysgu fawr. Gwasgwch y foronen wedi’i choginio rhwng eich bysedd i mewn i’r bowlen. Gwnewch yr un peth gyda’r swedsen a’r daten, yna ychwanegu’r cig, y pys a’r grefi. Cymysgwch hyd nes ei fod wedi cymysgu’n dda.
Torrwch gylch oddeutu 25cm ar draws (fel arall, defnyddiwch blât cinio maint canolig i dorri o’i gwmpas) allan o’r toes sydd wedi’i rholio’n barod. Rhowch y llenwad ar hyd y llinell ganol, gan adael ymyl o 2.5cm o gwmpas yr ochrau.
Brwsiwch o gwmpas ymyl y toes gyda’r wy wedi’i guro. Codwch ddwy ochr y does yn ofalus hyd nes eu bod nhw’n cyfarfod ar y brig, yna bydd angen i chi eu pinsio nhw gyda’i gilydd i’w selio, gan sicrhau nad oes unrhyw fylchau.
Codwch y bastai’n ofalus a’i rhoi ar hambwrdd pobi gwrthsaim. Brwsiwch y bastai gyfan â’r wy. Pobwch am 45 munud, hyd nes ei bod yn euraid.
Gweinwch a mwynhewch.