Cynhwysion
4 (fesul person) o datws Elfe
Ychydig ddiferion o olew olewydd
1 planhigyn wy
1 courgette
2 bupur coch
Llond llaw o domatos bach
Llond llaw o berlysiau ffres
cyfarwyddiadau
Golchwch a thorrwch eich llysiau yn dalpiau.
Berwch eich tatws Elfe yn rhannol am 5 munud a’u torri’n dalpiau.
Rhowch eich llysiau ar y gril gydag ychydig o olew olewydd a llond llaw o berlysiau ffres am tua 10 munud. Awgrymwn bersli a choriander.
Wrth grilio eich llysiau, ffriwch y tatws Elfe am 10–12 munud, neu nes byddant yn dechrau meddalu a’r crwyn yn crimpio.
Ysgeintiwch ychydig o olew olewydd a mwy o berlysiau ffres ar eu pennau i orffen.