Cynhwysion
***Pelenni cig***
2 dafell o fara cyflawn
750g mins twrci
2 ewin garlleg, wedi’i fathru
1 winwnsyn canolig, wedi’i dorri’n fân
2 lwy de o dyrmerig
2 lwy de o bowdr tsili
Pupur du i sesno
1 llwy fwrdd o olew llysiau
***Ffa Boston***
1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 ewin garlleg, wedi’i fathru
1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
1 pupur coch bach, wedi’i dorri’n fân
2 lwy de o baprica mwg
3 llwy fwrdd o saws barbeciw
415g o ffa pob isel mewn halen a siwgr
1 ciwb stoc llysiau, wedi’i friwsioni a’i gymysgu mewn 200ml o ddwr berw
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty i 200°C/180°C Ffan/Nwy 7.
I wneud y briwsion bara, rhwygwch y bara a’i roi mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu am ychydig eiliadau nes bydd y bara’n friwsion mân. Fel arall, gellir gratio’r bara’n fân.
Gosodwch y briwsion bara a chynhwysion eraill y pelenni cig, ac eithrio’r olew, mewn powlen a’i gymysgu’n dda nes bydd y cwbl wedi cyfuno. Yna, gyda’ch dwylo, lluniwch 24 belen o’r un maint â’i gilydd, tua maint cneuen Ffrengig. Gosodwch 12 pelen i’r naill ochr ar gyfer eu rhewi, a rhowch y pelenni sy’n weddill ar dun rhostio bas wedi’i iro. Brwsiwch y pelenni gydag ychydig o olew a’u pobi am 20 munud i goginio drwyddynt.
Yn y cyfamser, paratowch y Ffa Boston drwy gynhesu olew mewn sosban nad yw’n glynu a ffriwch y garlleg, y winwns a’r pupur am 5 munud nes maent yn feddal.
Ychwanegwch y paprica mwg a’i goginio am funud, wedyn y saws barbeciw, y ffa pob a hanner y stoc. Trowch y gwres i lawr a’i ffrwtian am 10 munud, gan ychwanegu gweddill y stoc os yw’r saws yn drwchus.
Tynnwch y pelenni cig o’r popty a’u cymysgu i mewn i’r saws
***Cynghorion***
Gweinwch gyda lletemau tatws crimp, reis, pasta neu fara. Mae’r saig hon hefyd yn ardderchog ar gyfer llenwi tatws trwy’u crwyn. Os nad oes gennych fara cyflawn, gallech ddefnyddio bara gwyn. Os oes llysiau fel courgette neu blanhigyn wy yn llechu yn yr oergell, gallech eu torri’n fân a’u hychwanegu ar yr un pryd â’r winwns.