LFHW Puprynnau coch pob wedi’u llenwi | Love Food Hate Waste Wales

Puprynnau coch pob wedi’u llenwi

45 - 60 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Rysáit gwych ar gyfer defnyddio pupurau dros ben, a gallwch ddefnyddio pupurau melyn neu wyrdd yn lle rhai coch.

Cynhwysion
4 pupryn coch mawr wedi’u haneru (ar ôl torri’r coesau a’r hadau)
4 llwyaid de o Flora Cuisine
1 wnionyn canolig ei faint, wedi’i bilio a’i dorri’n giwbiau
¼ llwyaid de o gwmin
1 sbrigyn o rosmari wedi’i dorri
2 sbrigyn o deim ffres wedi’u torri (ar ôl torri’r coesau)
Pinsiad o fflochau tsilis
Halen y môr a phupur wedi’i falu
1 tomato mawr wedi’i dorri
1 llwyaid o fwtrin tomatos
400g (14oz) o friwgig
100ml (4floz) o win gwyn
100ml (4floz) o wlych llysiau (wedi’i wneud â hanner ciwb Knorr)
1 llwyaid o finegr balmaidd
2 ewin garlleg wedi’u pilio a’u gwasgu
10 deilen o fasil ffres wedi’u rhwygo
100g (4oz) o sbigoglys ffres wedi’i olchi
100g (4oz) o gaws llai ei fraster, wedi’i ratio
Pinsiad o baprica mwg
cyfarwyddiadau
Cynhesu’r ffwrn at 200°C (trydan), 180°C (ffan) neu 6 (nwy)
Dodi’r puprynnau ar hambwrdd pobi
Cynhesu’r Flora Cuisine mewn padell drom a ffrio’r wnionyn, y cwmin, y rosmari, y teim, y tsilis, yr halen a’r pupur am 2–3 munud nes bod popeth yn feddal
Ychwanegu’r tomatos a’r mwtrin, cau’r badell a choginio’r cyfan yn araf am 5 munud
Ychwanegu’r briwgig a’i goginio am 5 munud cyn rhoi’r gwin a’r gwlych ynddo. Dylech chi ei goginio nes bod y rhan fwyaf o’r dŵr wedi mynd
Ychwanegu’r finegr, y garlleg, y basil a’r sbigoglys. Troi popeth yn drylwyr a’i goginio nes bod y sbigoglys wedi meddalu ychydig
Llenwi’r puprynnau a’u gadael yn y ffwrn heb gaead am 20 munud. Cymryd y puprynnau allan o’r ffwrn, ychwanegu’r caws a gwasgaru’r paprica arnyn nhw
Rhoi’r puprynnau yn ôl yn y ffwrn am ryw 10 munud nes eu bod yn feddal a bod y caws yn frown