
Pwdin Bara A Menyn
Mae hon yn rysáit gwych pan fydd gennych chi dafelli sych ar ddiwedd torth o fara. Awgrym y cogydd: mae’n bwysig defnyddio bara sych oherwydd byddai bara ffres yn creu pwdin soeglyd. I gael y canlyniadau gorau, gadewch y bara i socian dros nos, gan fod hyn yn caniatáu i’r gymysgedd cwstard gael ei hamsugno’n well ac, yn y pen draw, fydd hyn yn arwain at bryd gorffenedig gwell. Defnyddio bwyd dros ben - Yn ogystal â defnyddio eich bara dros ben, gallwch ddefnyddio bananas wedi’u cleisio neu rai sydd wedi aeddfedu gormod. Amrywiaethau - Os nad oes gennych chi unrhyw fara dros ben, mae croissants sych yn ddewis gwych arall. Gallech chi ychwanegu ychydig o fricyll sych wedi’i sleisio'r un pryd â’r syltanas. Gallwch ei weini gyda chwstard poeth, ychydig o hufen neu saws caramel. Blas ychwanegol - Bydd ychwanegu ychydig o sinamon, nytmeg, sinsir neu fanila at y rysáit yn creu blas cynnes. Cyngor ar rewi - Gallwch wneud y pryd hwn ymlaen llaw, yna ei rewi; os byddwch yn ei goginio o rewi, bydd angen ei goginio am 5-10 munud ychwanegol. Cyngor ar alergeddau - Gallwch addasu’r pryd amlbwrpas hwn yn hawdd i osgoi alergenau a bod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddietau.
Gwybodaeth maeth: Kcal - 1,813, Kj - 7585, Braster - 110g, Braster dirlawn - 64g, Carbohydradau - 164g, Sy’n troi’n siwgr - 79g, Protein - 31g, Ffibr - 11g, Sodiwm - 0.9g