Cynhwysion
1 cenhinen fawr, tua 250g
Lwmp o fenyn heb ei halltu
Winwnsyn bach gwyn, wedi’i dafellu
1 ewin garlleg, wedi’i fathru
4 darn o deim, y dail wedi’u tynnu oddi ar y coesau
Pinsiad o halen môr
100g o fadarch castan, wedi’u chwarteru
500ml o laeth cyflawn
3 wy
1 llwy de o nytmeg mâl
1 hen dorth, tua 400g
75g o gaws glas meddal
75g o ham Serrano
cyfarwyddiadau
Tafellwch y genhinen yn gylchoedd 2cm a’u gosod mewn sosban o ddŵr berw. Berwch y cennin am 3 munud i’w meddalu. Draeniwch y dŵr a gosodwch y cennin i un ochr.
Toddwch lwmp o fenyn mewn dysgl caserol. Ychwanegwch y winwnsyn wedi’i dafellu a’i ffrio am 5 munud ar wres canolig. Pan fydd wedi meddalu ac yn dechrau carameleiddio, ychwanegwch y garlleg a’r teim i’r ddysgl ynghyd â phinsiad o halen. Daliwch ati i’w ffrio am 3 munud arall. Ychwanegwch y madarch a’r cennin i’r ddysgl a’i thynnu oddi ar y gwres.
Mewn jwg mawr, cyfunwch y llaeth, yr wyau a’r nytmeg a’i chwipio’n ysgafn. Torrwch neu rhwygwch y bara yn dalpiau 4cm.
Cyfunwch hanner y bara gyda’r cymysgedd winwns a chennin yn y ddysgl ac yna ysgeintiwch hanner y caws a’r ham Serrano o gwmpas y ddysgl yn gyfartal. Rhowch haen o’r bara, caws a ham sy’n weddill ar ei ben ac arllwyswch y cymysgedd wy drosto.
Caniatewch i’r bara socian am o leiaf 30 munud cyn ei goginio. Tra bod y bara’n socian, twymwch y ffwrn i 190˚C / Nwy 5. Pobwch y pwdin bara menyn am 25–30 munud nes ei fod yn euraidd ac wedi crimpio.
Gweinwch gyda salad gwyrdd neu lysiau’r tymor.