Cynhwysion
140g o flawd hunan godi
85g o fargarîn neu fenyn
110g o siwgr
1 wy
2 lwy fwrdd o laeth
Pinsied o halen
Amrywiadau ar gyfer y sbwng:
Ffrwythau sbeislyd: Ychwanegwch 85g o ffrwythau sych ac 1 llwy de o sbeis cymysg
Mocha: Ychwanegwch 1 llwy bwdin o goco ac 1 llwy de o goffi
Citrws: Ychwanegwch groen oren neu lemwn wedi’i gratio
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 190°C.
Irwch ddysgl dal gwres a rhowch haen o’ch dewis chi yng ngwaelod y ddysgl.
Cymysgwch y margarîn a’r siwgr gyda’i gilydd, i wneud cymysgedd hufennog golau ac ysgafn.
Ychwanegwch yr ŵy a’r llaeth ychydig bach ar y tro, a’u curo hyd nes eu bod nhw wedi cael eu hamsugno.
Rhidyllwch y blawd a’r halen i mewn i’r gymysgedd, a’i blygu’n ysgafn hyd nes bod y cyfan wedi’i gymysgu.
Rhowch gymysgedd y sbwng mewn haen gyfartal yn y ddysgl, dros yr haen gwaelod. Pobwch hyd nes bod y sbwng yn frown euraid, ac yn mynd yn ôl i’w siâp pan fyddwch yn ei wasgu’n ysgafn (am oddeutu 40 munud).