Reis lliwgar wedi’i Ffrïo

Gan
Hailey Thomson, Your Health Angel
20 - 30 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
2

Mae’r tro-ffrio hwn yn ffordd gyflym a hawdd o ddefnyddio llu o lysiau dros ben, mewn ffordd ddiddorol a blasus.

Cynhwysion
Llysiau o’ch dewis chi - rydym ni wedi defnyddio pupur coch, winwns, madarch, ffa Ffrengig a sbigoglys
200g o gyw iâr wedi’i goginio (neu unrhyw gig o’ch dewis chi)
1 wy
Ciwb 2 fodfedd o sinsir wedi’i dorri’n fân iawn
2 glof garlleg, mâl
1 llwy fwrdd o olew cnau coco
1 llwy fwrdd o tamari
1 llwy fwrdd o olew sesame
400g o reis brown wedi’i goginio
1 tsili (dewisol)
Llond llaw fach o gashews wedi’u rhostio (dewisol)
cyfarwyddiadau
Toddwch yr olew cnau coco mewn wok, a ffriwch y sinsir, tsili (os byddwch yn ei ddefnyddio) a’r llysiau am rai munudau.
Ar ôl eu brownio, ychwanegwch wy a’i sgramblo’n gyflym.
Ychwanegwch y reis brown wedi’i goginio, y cyw iâr wedi’i goginio, a thamari, a’u ffrio am rai munudau eto.
Pan fydd bron yn barod, ychwanegwch y sbigoglys wedi’i dorri’n fân a’i gymysgu am 30 eiliad.
Diffoddwch y gwres ac ychwanegu’r olew sesame, ei gymysgu ac yna ei weini.
Os dymunwch, rhowch gnau cashews wedi’u torri’n fân fel garnais.