Risotto Cig Oen Cymru, Berwr a Parmesan

Gan
Meat Promotion Wales
20 - 30 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
2

Rhoddir y rysait cig oen yma, i ni gan Hybu Cig Cymru. Mae’n engraifft ardderchog o sut, gyda ychydig o cynhwysion, gellir defnyddion cig oen dros ben i wneud pryd syml blasus.

Cynhwysion
225g (8oz) stecs coes Cig Oen Cymru, wedi eu torri'n giwbiau bach
5ml (1llwy de) olew olewydd
1 winwnsyn, wedi ei dorri'n fan
150g (5oz) reis risotto (Arborio)
600ml (1pt) isgell
Pupur du
50g (2oz) pys sugar snap
50g (2oz) pys rhew
Dail berwr
Caws Parmesan
cyfarwyddiadau
Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban a choginiwch yr winwns a'r ciwbiau cig oen coch.
Ychwanegwch y reis risotto a throwch yn dda.
Ychwanegwch yr isgell, a dewch a'r cyfan i'r berw, ychwanegwch halen a phupur a'i fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y reis wedi coginio a'r hylif i gyd wedi ei amsugno. (Gallwch ychwanegu ychydig mwy o isgell i gael y trwch y dymunwch).
Yn ystod 5 munud ola'r amser coginio, ychwanegwch y pys sugar snap a'r pys rhew, cymysgwch gyda'i gilydd a choginio nes bod y sugar snaps yn dechrau meddalu.
Rhowch fwy o halen a phupur a gweinwch gyda dyrnaid o ferwr a chaws Parmesan wedi gratio.