Cynhwysion
2 lwy fwrdd o olew
2 winwnsyn coch, wedi’u torri
2 lwy de o felin garlleg Schwartz neu 2 glof garlleg mâl
1 llwy de o diwmeric Schwartz
1/2 llwy de o tsilis mâl Schwartz
1 llwy fwrdd o bowdwr cyri canolig Schwartz
1 llwy fwrdd o goriander mâl Schwartz
1 llwy de o biwrî tomato
450g o ysgwydd cig oen, wedi’i ddeisio
200ml (7 owns hylif) o ddŵr
4 tomato, wedi’u chwarteru
Sudd 1 lemwn
1 llwy fwrdd o ddail coriander Schwartz
Halen môr Schwartz i roi blas
Reis Pilau i weini
cyfarwyddiadau
Cynheswch yr olew mewn sosban gwaelod trwm mawr. Ychwanegwch y winwns a’r garlleg, a’u coginio am 10 munud.
Ychwanegwch y tiwmeric, y tsilis mâl, y powdwr cyri canolig, y coriander mâl, a’r piwrî tomato, a’u coginio am funud arall.
Ychwanegwch y cig oen wedi’i ddeisio, y dŵr, y tomatos, y sudd lemwn a’r coriander.
Gadewch iddo fudferwi am 15 munud, yna ychwanegwch halen i roi blas, a’i weini gyda reis Pilau.