LFHW Salad cwinoa gydag afalau a grawnwin | Love Food Hate Waste Wales

Salad cwinoa gydag afalau a grawnwin

Gan
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac maen nhw’n gweithio’n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy’n ychwanegu lliw, ansawdd a blas. Awgrym da: Gallwch ddefnyddio mathau eraill o rawn – rhowch gynnig ar gwscws neu reis brown. Dewiswch afalau sydd â blas siarp, ffres a chroen gwyrdd neu goch deniadol. Cyfle i ddefnyddio: Grawnwin, afalau. Amrywiadau: Mae pob math o ffrwythau ffres yn gweithio’n dda mewn salad grawn – rhowch gynnig ar salad sitrws trwy ychwanegu darnau o oren a grawnffrwyth. Blas ychwanegol: Mae ychydig o driagl pomgranad yn wych ar y salad hwn. Gallai llysieuwyr ddymuno ychwanegu ychydig o gaws ffeta wedi’i dorri’n fân. Cyngor ar alergeddau: Yn dibynnu ar y math o rawn a ddefnyddiwch, gallai’r saig hon gynnwys glwten. Maetholion fesul dogn – Calorïau (kJ) 1043; Calorïau (kcal) 248; Protein 7.2; Braster 8.1; Y mae 1.0 ohono’n ddirlawn; Carbohydrad 35.9; Y mae 12.3 ohono’n siwgr; Ffeibr 1.4; Sodiwm 0.1

Fegan
Heb Wyau
Heb Gynnyrch Llaeth
Llysieuol
Cynhwysion
200g/7oz o gwinoa heb ei goginio
2 afal
100g/3½ oz o rawnwin heb hadau
Sudd hanner lemwn
2 lwy fwrdd o olew olewydd
cyfarwyddiadau
Coginiwch y cwinoa gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn, yna diferwch ef a’i oeri.
Tynnwch galon yr afalau, sleisiwch nhw’n fain ac ysgeintiwch y sudd lemwn drostyn nhw. Torrwch y grawnwin yn haneri.
Cymysgwch yr holl gynhwysion ynghyd a gweini’r salad yn oer.