Cynhwysion
Pecyn 454g o selsig
1 winwnsyn mawr, wedi ei dorri’n lletemau
500g (1.1 pwys) tatws newydd neu datws salad, wedi eu torri’n drwchus
2 llwy fwrdd olew'r olewydd
1 llwy fwrdd mwstard grawn cyflawn
1 llwy fwrdd dail teim ffres neu wedi’u sychu
cyfarwyddiadau
Cynheswch y ffwrn i 200°C, nwy marc 6
Ar ôl troi a thorri pob selsigen yn ei chanol rhowch yr 16 selsigen fach mewn tun rhostio mawr gyda’r winwns a’r tatws. Trowch nhw yn yr olew, y mwstard a’r teim, ac ychwanegu halen a phupur
Pobwch y cyfan am 30-35 munud, a throi’r cynhwysion ar ôl 15 munud neu nes eu bod yn euraidd a’r tatws yn feddal