LFHW Sgrambl Tofu a courgette | Love Food Hate Waste Wales

Sgrambl Tofu a courgette

Gan
LFHW
10 - 20 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

I lawer o figans, mae sgrambl tofu yn bryd hwylus i’w wneud o gynhwysion y cwpwrdd storio, ac mae ychwanegu llysiau wedi eu coginio yn ychwanegu blas, gwead a lliw i’r pryd.

Cynhwysion
1 pecyn 400g/14 owns o dofu plaen cadarn
2 courgette gymedrol (350g/12 owns)
1 nionyn cymedrol (150g/ 5½ owns)
1 clof garlleg
1 llond llwy de o twrmerig
1 llond llwy fwrdd o olew llysiau
cyfarwyddiadau
Draeniwch y tofu a’i batio’n sych gyda thyweli cegin. Briwsionwch o’n dyner gyda’ch dwylo
Trimiwch y courgettes a’u sleisio yn dafellau. Pliciwch, a hanerwch a sleisiwch y nionyn. Pliciwch a gwasgwch y garlleg
Rhowch yr holl gynhwysion mewn padell ffrïo ddofn a’i ffrïo’n ysgafn, gan ei droi’n aml, am tua 5 i 8 munud nes y mae’r courgettes yn feddal ac yn dechrau troi lliw