Sgwash wedi ei lenwi

Gan
HOFFI BWYD CASÁU GWASTRAFF
Un Awr +
Dechreuwr
yn gwasanaethu
1

Mae sgwash wedi ei lenwi yn bryd syml sy’n agored i lawer o amrywiadau. Wedi i chi feistrioli’r rysáit sylfaenol gallwch fod yn fwy creadigol a’i sdwffio gyda pob math o gynhwysion.

Rhewi
Yes
Llysieuol
Cynhwysion
1/2 sgwash cnau ymenyn (wedi ei dorri yn ei hyd a thynnu’r hadau)
50 gram o gaws hufen, ffeta neu gaws mozzarella
1 llond llwy fwrdd o grafion tshili sych, powdwr tshili neu un tshili ffres
100 gram o ffacbys wedi eu coginio (Ffacbys Puy os yn bosibl)
1 llond llwy fwrdd o sesnin Cajun
1 llond llwy fwrdd o deim wedi’i sychu
1 cof garlleg wedi ei wasgu neu 1 llond llwy fwrdd o arlleg dyn diog
1 llond llwy fwrdd o olew (olew olewydd sydd orau)
cyfarwyddiadau
Twymwch y popty ymlaen llaw i 170 gradd
Cymerwch y sgwash a sgorio ei gnawd cris-croes
Cymysgwch y garlleg a’r sesnin Cajun mewn powlen fechan gyda llond llwy fwrdd o olew olewydd a’i rwbio dros gnawd y sgwash, ei sesno a’i roi ar hambwrdd pobi yn y ffwrn am 40 munud. Ei goginio nes bod y cnawd yn feddal
Nawr torrwch y ffeta yn giwbiau 1.2 modfedd. Os ydych am ddefnyddio tshili ffres torrwch o mor fân a phosibl. Cymysgwch y ffacbys gyda’r ffeta, y tshili a’r teim
Mowldiwch y cyfan yn bêl a’i rhoi yng nheudod y sgwash. Ei bobi am 15 munud arall
Eu weini gyda salad wedi ei addurno’n ysgafn