Stwnsh Pwmpen

Gan
KNORR - Cyfranwyd trwy garedigrwydd Knorr
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Beth am ategiad tymhorol rhwydd i fynd gyda’ch hoff stiwiau a phrydau pot hydrefol? Rhowch gynnig ar y stwnsh pwmpen lliwgar hwn yn lle’r stwnsh tatws arferol.

Fegan
Cynhwysion
1 bwmpen fechan
1 llond llwy de o olew olewydd
Ambell sbrigyn o rosmari
Pupur a halen i roi blas
cyfarwyddiadau
Twymwch eich popty ymlaen llaw i 200°C, 180°C mewn popty ffan, Nwy Marc 6
Torrwch dop a gwaelod y bwmpen, pliciwch yr holl groen allanol a thynnu’r hadau
Torrwch y bwmpen yn giwbiau yn mesur tua 1/2 modfedd i 3/4 modfedd a’u rhoi mewn caserol ffwrn neu hambwrdd pobi. Ychwanegwch lond llwy fwrdd o olew olewydd, y rhosmari a mymryn o bupur a halen a chymysgwch y cyfan gyda’i gilydd
Rhowch nhw yn y popty a’u coginio am 25 munud nes maent wedi meddalu
Tynnwch nhw o’r popty a thaflu’r rhosmari i ffwrdd. Yna gallwch naill ai ei stwnshio â llaw neu ei mewn periant, yn ôl eich anian. Ychwanegwch bupur a halen i’w flasu. A dyna fo – stwnsh pwmpen braf a syml