Stwnsh Tatws a Llysiau

Gan
SCHWARTZ
20 - 30 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
4

Mae Stwnsh Tatws a Llysiau yn rysáit gwych ar gyfer defnyddio gweddillion eich cinio dydd Sul ac mae ychwanegu Grefi Twrci Rhost Schwartz yn goron ar y cyfan.

Cynhwysion
1 llond llwy fwrdd o olew olewydd
450g (1pwys) o datws rhost wedi eu coginio a’u torri’n fân
1 nionyn, wedi ei dorri’n fân
200g (7 owns) o gig wedi ei goginio a’i dorri’n ddarnau
225g (8 owns) o lysiau wedi eu coginio, er enghraifft ysgewyll, moron a panas
1 llond llwy de o Bâst Coginio Tshili Schwartz
1 pecyn o Gymysgedd Grefi Schwartz ar gyfer Twrci wedi ei rostio
Halen Môr a Phupur Du Schwartz
cyfarwyddiadau
Twymwch badell fawr gwrth-lynu ac ychwanegu’r olew. Ffrïwch y tatws a’r nionyn gyda’i gilydd am 5 munud
Ychwanegwch y cig, y llysiau a’r Pâst Tshili a’u ffrio am 10 munud arall gan eu troi yn gyson
Gwnewch y grefi gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn a’i syrfio efo’r Stwnsh Tatws a Llysiau