Cynhwysion
Cig coes twrci ffres oddi ar yr asgwrn, wedi’i dorri’n dameidiau
1 pupur coch
1 courgette
250ml o stoc cyw iâr (1/2 ciwb stoc)
2 dun o domatos mân
1 tun o wygbys
2 winwnsyn
1 llwy de o sinsir ffres
2 glof garlleg mâl
2 lwy fwrdd o goriander
4 llwy de o ras el hanout
1 lemwn cadw*
2 lwy fwrdd o olew
cyfarwyddiadau
Cynheswch yr olew mewn padell fawr ac ychwanegwch y winwns wedi’u torri’n fân, a’r sinsir a’r garlleg wedi’u torri’n fan. Coginiwch yn ysgafn am 5 munud.
Ychwanegwch y cig twrci a’i goginio’n ysgafn am 10 munud.
Ychwanegwch y pupur coch, courgette, tomatos tun, gwygbys, lemwn cadw wedi’i ddeisio*, ras el hanout, stoc cyw iâr a choriander.
Mudferwch am 30 i 45 munud, yna ychwanegwch halen a phupur i roi blas. Mudferwch am 30 munud arall er mwyn i’r blasau drwytho.
* Tynnwch halen gormodol o’r lemwn, a phan fyddwch yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf, ychwanegwch y lemwn fesul chwarter, a blasu’r gymysgedd hyd nes i chi gael y blas dymunol.