
Talpiau Tatws Llwythog
Mae’r holl waith caled wedi cael ei wneud i chi yma. Rhowch gaws dros ben a darnau o gig moch, salami neu ham, dros y talpiau tatws. Rhowch ychydig o besto neu saws tsili arnynt, a’u gweini gyda phlât o gigoedd oer, salad ac unrhyw biclau o’r cwpwrdd.