LFHW Tameidiau Letys | Love Food Hate Waste Wales

Tameidiau Letys

Gan
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
30 - 45 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
12

Mae’r rysáit hon yn trawsffurfio letys dros ben yn fyrbryd blasus sy’n berffaith i’w weini i westeion mewn cinio gwadd neu eu cynnwys mewn picnic. Cost fesul rysáit £4.13 Cost fesul dogn 34c Awgrym: Ar gyfer canapé, torrwch y crwst yn sgwariau llai a defnyddiwch dun myffins bach 24 twll. Defnyddiwch unrhyw gaws dros ben yn y rysáit hon, fel caws cheddar wedi’i gratio, a’i gratio â llond llwy o bicl. I roi elfen wahanol i’r rysáit hon, rhowch lenwad y tameidiau letys ar ben toes pitsa, yna ei dorri’n sgwariau ar ôl ei goginio.

Awgrymiadau rhewi a storio: Peidiwch â’u rhewi. Storiwch unrhyw dameidiau dros ben yn yr oergell, a’u bwyta o fewn 24 awr

Cyngor ar alergedd: Mae’n cynnwys cynnyrch llaeth/grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten/wy

Gwybodaeth faethol: Maeth fesul dogn

Calorïau (kJ) 643 Calorïau (kcal) 154 Protein 4.7g Braster 7.6g sy’n fraster dirlawn 2.0g Carbohydrad 16.2g sy’n siwgr 6.9g Ffibr 0.8g Sodiwm 0.03g

Cynhwysion
Menyn neu olew i iro
1 pecyn o grwst pwff braster isel wedi’i rolio’n barod
1 wy bach, wedi’i guro
125g o siytni winwns coch wedi’u carameleiddio
75g o ddal letys cymysg, crisb, wedi’u rhwygo’n fân
125g o gaws gafr meddal
Pupur du i roi blas
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C Ffan / Nwy 6. Irwch yn ysgafn hambwrdd myffins 12 twll dwfn.
Rholiwch allan ddalen o grwst pwff a, gyda chyllell finiog, ei thorri’n 12 sgwâr cyfartal o ran maint. Gwasgwch y sgwariau o grwst o mewn i’r tun myffins yn ofalus, gan adael y corneli’n hongian dros ochr yr ymyl ychydig, yna brwsio bob sgwâr ag ychydig o’r wy wedi’i guro.
Rhowch lond llwy de o siytni winwns wedi’u carameleiddio ar waelod pob sgwâr crwst, yna ychwanegu letys wedi’i rwygo a chaws gafr. Rhowch bupur du i roi blas, a’u pobi am 15-18 munud, hyd nes eu bod nhw lliw euraidd ac yn bwff. Gadewch iddyn nhw oeri ychydig yn y tun myffins, yna eu rhoi ar blât weini.