LFHW Tarten Sawrus Twrci a Peppadew® Mild Piquanté Peppers Chopped | Love Food Hate Waste Wales

Tarten Sawrus Twrci a Peppadew® Mild Piquanté Peppers Chopped

Gan
Peppadew
30 - 45 Munud
Canolradd
yn gwasanaethu
6
Cynhwysion
200g o dwrci rhost wedi’i rwygo’n ddarnau, neu gyw iâr neu gig arall tebyg
100g o gaws Feta
1 llwy fwrdd o Peppadew® Mild Piquanté Peppers Chopped
100g o gaws Cheddar, neu unrhyw gaws caled arall
3 wy
1 cwpan o hufen ffres neu crème fraîche
½ cwpan o winwns coch rhost wedi’u sleisio
3 haen o grwst ffilo
Menyn neu farjarîn, wedi’i doddi, i’w frwsio ar y crwst
cyfarwyddiadau
Cynheswch y popty i 200c ac irwch dun myffins
Mewn powlen, paratowch y cymysgedd ar gyfer llenwi’r tartenni drwy gymysgu’r twrci, y caws feta, y Peppadew® Mild Piquanté Peppers Chopped, y winwns coch a’r caws Cheddar gyda’i gilydd
Mewn powlen arall, cymysgwch yr hufen ffres a’r wyau gyda’i gilydd
Torrwch y crwst ffilo yn sgwariau i ffitio yn y tuniau myffins
Haenwch y crwst ffilo gan frwsio menyn rhwng bob haen
Ychwanegwch lwyaid o’r cymysgedd llenwi i bob ‘cwpan’ yn y tun
Arllwyswch y cymysgedd wy nes ei fod bron at dop y tun
Pobwch am 20–25 munud neu nes bydd y cymysgedd wy wedi’i goginio
Tynnwch o’r popty a’i weini’n gynnes gyda salad o ddail gwyrdd
Cyngor gan y cogydd: Gallwch gyfnewid y twrci am gyw iâr neu gig arall tebyg yn ôl eich dymuniad