Tatws Bombay

Gan
SCHWARTZ
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae’r rysáit hwn ar gyfer Tatws Bombay yn ffordd ardderchog o ddefnyddio tatws rhost sydd gennych dros ben. Tatws a nionod tyner wedi eu coginio mewn saws tomatos poeth a sbeislyd – ategiad rhagorol ar gyfer unrhyw gyri, neu bryd llysieuol blasus ar ei ben ei hun. Yn wych gyda dogn hael o iogwrnt naturiol a siwtni mango.

Llysieuol
Cynhwysion
450g (1 pwys) o datws wedi eu torri’n giwbiau
2 llond llwy de o olew
1 nionyn, wedi ei sleisio
1 paced o Gymysgedd Tatws Bombay Schwartz
4 llond llwy fwrdd o ddŵr
Un tun 400g o domatos wedi eu malu
cyfarwyddiadau
Torrwch y tatws rhost sydd dros ben yn giwbiau
Twymwch yr olew a brownio’r nionyn. Ychwanegwch gynhwysion y pecyn at y nionyn a’i goginio yn dyner am 1 munud
Ychwanegwch y tatws, y dŵr a’r tomatos a’u troi yn drylwyr. Rhowch gaead arnynt a’u mud-ferewi am 10 munud arall, neu nes y mae’r tatws wedi eu coginio’n iawn