Cynhwysion
8 taten
5 llwy fwrdd o fenyn wedi toddi neu olew olewydd
4 llwy de o baprica mwg
2 lwy fwrdd o deim
2 lwy fwrdd o rosmari
2 lwy fwrdd o bersli
2 lwy de o halen môr mwg
200g o ddarnau cig moch
cyfarwyddiadau
Twymwch y ffwrn i 200°C Ffan / Nwy 6.
Torrwch haen denau ar hyd bob taten – mae hyn yn creu sylfaen ar gyfer y broses o’u gwneud yn datws Hasselback. Rhowch y daten i lawr ar ei hochr fflat ac yna, gyda chyllell finiog, torrwch dri chwarter ffordd drwy’r daten ar ei thraws, gan wneud felly ar hyd y daten bob tua ½cm. Gwnewch hyn i’r tatws i gyd.
Torrwch y perlysiau’n fân a’u rhoi mewn powlen gyda’r olew a’r sbeis. Brwsiwch y cymysgedd perlysiau ar y tatws, ysgeintiwch halen môr mwg arnynt a’u gosod yn eich sgilet .
Pobwch y tatws yn y ffwrn am 50 munud cyn ychwanegu’r darnau cig moch a’u pobi wedyn am 10 munud ychwanegol.