Cynhwysion
250g o fisgedi gwenith
300g o wyau Pasg wedi’u malu (gall fod yn gymysgedd o siocled tywyll, brown neu wyn)
125g o fenyn
150g o driog melyn
75g o resins
75g o gnau cymysg, wedi’u torri’n fras
I addurno: cymysgedd o ddanteithion Pasg dros ben
cyfarwyddiadau
Defnyddiwch bapur gwrthsaim i leinio tun neu ddysgl betryalog, gan adael ychydig yn hongian dros yr ochr, a’i osod i’r naill ochr.
Nesaf, rhowch y bisgedi mewn bag a’u mathru gyda phin rholio a’u gosod i’r naill ochr.
Rhowch bowlen sy’n dal gwres dros sosban o ddŵr sy’n ffrwtian.
Ychwanegwch y siocled wedi’i falu, y triog melyn a’r menyn. Cymysgwch yn ofalus nes bydd y cwbl wedi toddi ynghyd.
Tynnwch y bowlen oddi ar y gwres.
Ychwanegwch y bisgedi wedi’u malu, y rhesins a’r cnau mâl.
Cymysgwch yn dda i orchuddio popeth yn llwyr
Trosglwyddwch y cymysgedd i’r ddysgl neu’r tun wedi’i leinio, gan ddefnyddio llwy bren i wthio’r cymysgedd i’r holl gorneli.
Gwasgarwch fferins ar ei ben cyn ei osod mewn oergell i oeri am 2–3 awr.
Gan ddefnyddio ymylon y papur gwrthsaim, codwch a throsglwyddo’r deisen ar fwrdd torri a’i dorri’n dafelli. Bwytewch a byddwch lawen!