Tofu gyda nwdls sawslyd

Gan
LFHW
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Does dim rhaid i chi gael llwyth o gynhwysion arbenigol i greu tro-ffrïad blasus a maethlon.

Cynhwysion
1 bloc 400g/14 owns o dofu plaen, cadarn
2 bupryn, unrhyw liw
1 foronen gymedrol
1 nionyn
400g/14 owns o nwdls wy ffres
2 llond llwy fwrdd o saws soia
2 llond llwy fwrdd o sôs tomato
2 llond llwy fwrdd o olew llysiau
cyfarwyddiadau
Draeniwch y tofu a’i sychu gyda phapur cegin i dynnu cymaint o wlybaniaeth allan ag y gellir. Sleisiwch o a’i ffrïo’n ysgafn yn hanner yr olew llysiau nes ei fod yn grenslyd ac yn frown golau y ddwy ochr. Draeniwch o ar bapur cegin
Pliciwch a sleisiwch y nionyn. Pliciwch y foronen. Torrwch y foronen a’r puprynnau yn ffyn bach. Tro-ffrïwch am 2 funud yn yr olew oedd ar ôl
Ychwanegwch y tofu a’i droi’n dyner am 2 funud arall. Yna ychwanegwch y nwdls, y saws soia a’r sôs tomato a’i goginio am 3 neu 4 munud, gan ei droi’n dyner, nes iddo dwymo drwyddo