Cynhwysion
5 wy wedi’u chwisgo’n ysgafn
1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
1 clof garlleg, wedi’i falu’n fân
450g o gourgette wedi’i gratio
250g o datws melys wedi’u plicio a’u gratio
150g almonau mâl
1 llwy de o bowdwr pobi
1/2 cwpan o furum maethol neu gaws cryf
2 llwy fwrdd o besto
1 llwy fwrdd o rosmari sych
Ychydig o domatos ceirios i roi ar ei ben
Halen a phupur
cyfarwyddiadau
Leiniwch dun pobi (20cm x 30cm, neu faint tebyg) gyda phapur gwrthsaim.
Gratiwch y tatws melys, courgette, winwns a garlleg fel yr uchod. Os oes gennych chi brosesydd bwyd, defnyddiwch y llafn gratio.
Cymysgwch y courgette, tatws melys, almonau mâl, rhosmari, burum neu gaws, a halen a phupur gyda’i gilydd mewn powlen fawr.
Gwnewch ffynnon yn y gymysgedd ac ychwanegwch yr wyau a’r pesto. Cymysgwch yn dda.
Ychwanegwch y winwns, garlleg a phowdwr pobi, a’u cymysgu.
Leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Arllwyswch y gymysgedd i mewn, ei wasgaru’n gyfartal, a rhoi tomatos ar ei ben.
Rhowch ef yn y popty am 40-50 munud ar 400F/200C. Bydd y dorth wedi coginio pan fydd sgiwer yn dod allan yn lân.