LFHW Tost ffrengig gan Food Unearthed | Love Food Hate Waste Wales

Tost ffrengig gan Food Unearthed

Gan
Le Creuset
20 - 30 Munud
Dechreuwr
yn gwasanaethu
4

Mae’r saig dymhorol, sbeisiog hon o dost Ffrengig ac afalau yn wych fel brecinio hamddenol i’w fwynhau gyda ffrindiau a theulu. Dyma glasur o rysáit gan Le Creuset i ddefnyddio’ch bara dros ben.

Cynhwysion
1 afal fwyta fawr, wedi’i thorri’n fân
50g o syltanas neu resins
1 llwy de o siwgr brown meddal
1 llwy de o sbeis cymysg
2 wy mawr
100ml o laeth cyflawn
50ml o hufen dwbl
1 llwy de o rinflas fanila
4 tafell drwchus o hen fara
40g o gnau Ffrengig, wedi’u tostio
Menyn ac olew heb flas, ar gyfer ffrio
Siwgr eisin, i weini
cyfarwyddiadau
Paratowch y topin afalau yn gyntaf. Mewn sosban fach, cyfunwch yr afal, syltanas, siwgr brown a sbeis cymysg gyda llwy fwrdd o ddŵr, rhowch gaead arno a’i goginio ar wres isel am 5 munud nes bydd y darnau afal wedi meddalu a charameleiddio. Os bydd y cymysgedd yn rhu gludiog, ychwanegwch ychydig mwy o ddŵr. Tynnwch oddi ar y gwres a’i orchuddio nes daw’r amser i’w weini.
Mewn dysgl bobi fas, digon mawr i’ch tafelli bara, chwipiwch yr wyau, llaeth, hufen a fanila. Gosodwch y bara ynddo a gadael iddo socian am 2 funud cyn ei droi a’i socian am 2 funud arall.
Cynhesu'r padell ffrio ar wres isel-ganolig heb olew am ychydig funudau, fel ei fod yn boeth. Unwaith y bydd wedi cynhesu, ychwanegwch lwmp o fenyn a mymryn o olew a’i daenu’n gyfartal ar draws y sosban. Gosodwch ddarn o fara wedi’i socian yn y sosban a’i ffrio am 3 munud nes troi’n euraidd. Pan fo’r bara’n barod i’w droi, bydd yn rhyddhau’n hawdd o waelod y sosban ffrio. Trowch drosodd a’i ffrio am 3 munud arall.