I wneud y siytni gwyrdd, rhowch y coriander a’r persli mewn padell o ddŵr berw am gwpl o funudau. Draeniwch, a rhowch y perlysiau mewn powlen o ddŵr oer i’w hatal rhag coginio mwy. Bydd hyn yn meddalu’r perlysiau, yn enwedig y coesynnau.
Draeniwch y perlysiau a’u torri’n fân ar fwrdd torri.
Defnyddiwch bestl a morter (os oes gennych chi un), neu torrwch nhw’n fân iawn, gan ychwanegu pinsiad o halen môr bras, sudd hanner leim, a hanner tsili gwyrdd wedi’i sleisio’n denau.
Cymysgwch yn dda nes bydd gennych saws cnapiog gwyrdd llachar. Ychwanegwch ragor o halen, leim a tsili at eich blas.
I wneud y tost Ffrengig, cymysgwch yr wyau, y llaeth, yr halen a’r sbeisys mewn powlen.
Trosglwyddwch y cymysgedd i bowlen fawr fas neu blât ag ymyl go lew arni.
Rhowch badell ffrio i gynhesu dros wres canolig, ychwanegwch joch o olew blodau’r haul a thalp o fenyn i’r badell.
Dipiwch y tafelli bara i mewn i’r cymysgedd tost Ffrengig, a gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u gorchuddio’n dda, ond gan sicrhau nad yw’r bara’n disgyn yn ddarnau!
Pan fydd y menyn yn dechrau ffrwtian, rhowch y bara wedi’i ddipio yn y badell.
Coginiwch am 3–4 munud ar bob ochr neu nes bydd y ddwy ochr yn troi’n frown euraidd.
Rhowch ar blât a mwynhewch!
****************************************** Awgrymiadau ***********************************************
Awgrym platio i fyny: Torrwch y tost Ffrengig yn drionglau a’u trefnu o gwmpas ymyl y plât. Sesnwch gyda halen môr bras a phowdr tsili poeth. Wedyn, ysgeintiwch ddail coriander a tsilis wedi’u torri ar ei ben i’w orffen. Gweinwch y siytni ar y naill ochr mewn dysgl fach.
Awgrym bwyd dros ben: Os oes cymysgedd tost Ffrengig dros ben, daliwch ati i goginio unrhyw fara dros ben sydd gennych ar ôl, os oes gennych chi pobol eraill o’ch cwmpas sydd am gael snac.
Coginio am fwy na ddau: Mae’n ddigon hawdd dyblu’r rysáit hon os byddwch angen coginio ar gyfer mwy na dau o bobl.